Episodes
Friday Jan 24, 2025
Friday Jan 24, 2025
An episode reviewing the biggest stories in the world of Bitcoin in 2024, with our predictions for 2025.
Happy New Year!
Wednesday Jan 08, 2025
Wednesday Jan 08, 2025
Pennod yn adolygu straeon a hanesion mwyaf ym myd Bitcoin ym mlwyddyn 2024, ynghyd ag ein daroganiadau ar gyfer 2025.
Blwyddyn Newydd Dda!
Saturday Nov 02, 2024
Saturday Nov 02, 2024
Yr ail o dair podlediad ar bresennol ariannol Cymru, a'r frwydr am annibyniaeth.
Yn seiliedig ar y traethodau:
Torri'r Bunt i Dorri'r Bunt Undeb. https://blogariancymreig.com/2024/03/18/hanes-cymru-yr-undeb-a-datganolir-dyfodol-torrir-bunt-i-dorrir-undeb/
Rhan Dau - Presennol.https://blogariancymreig.com/2024/03/20/torrir-bunt-i-dorrir-undeb-rhan-dau-presennol/
Saturday Sep 07, 2024
Saturday Sep 07, 2024
Y cyntaf o dair podlediad ar hanes a dyfodol ariannol Cymru, a'r frwydr am annibyniaeth.
Yn seiliedig ar y traethodau:
Torri'r Bunt i Dorri'r Bunt Undeb. https://blogariancymreig.com/2024/03/18/hanes-cymru-yr-undeb-a-datganolir-dyfodol-torrir-bunt-i-dorrir-undeb/
Rhan Un - Gorffennol. https://blogariancymreig.com/2024/03/19/torrir-bunt-i-dorrir-undeb-rhan-un-gorffennol/
Wednesday Aug 07, 2024
Wednesday Aug 07, 2024
Y bennod gyntaf mewn tri mis, yn dal i fyny efo'r ail chwarter yn y byd ariannol, a'r ddirwasgiad/creisus ariannol a gwleidyddol sy'n magu dros y byd. Trafodir polisïau Trump gogyfer Bitcoin a'r Etholiad yn Nhachwedd, addewid gynyddol Bitcoin ar gyfer setlo masnach rhyngwladol i wledydd y byd, y diwydiant cloddio, defnydd Bitcoin ym Mhrydain, a newydd ddyfodiad NOSTR fel haen gyfrwng cymdeithasol a chyfundrefn adnabod/ymddiried ar gyfer Bitcoin. Ychydig o bopeth!
Thursday May 02, 2024
Thursday May 02, 2024
Podlediad i gofnodi ac i drafod achlysur pedair blynyddol Bitcoin, yn hanneriad y sybsidi bloc, sydd newydd daro yn Ebrill 2024.
Byddwn yn trafod seiliau rhwydwaith Bitcoin, ei bolisi ariannol a rhaglen gyhoeddi, a'r cylchoedd llanw a thrai sy'n ailadrodd yn gysylltiedig efo'r hanneriad.
Byddwn yn trafod prisiau damcaniaethol y flwyddyn farchnad tarw flwyddyn nesaf, ag os ydi diwedd y gylchred llanw a thrai yn agos, oherwydd datblygiadau ariannol a llywodraethol fyd-eang ers yr hanneru yn 2020.
Mae'r podlediad yn seiliedig ag y blog hwn. https://annrhefn.blog/2024/04/24/the-bitcoin-halving-redux-2024-and-revisiting-2020-and-2016-the-end-of-bitcoins-boom-and-bust-cycles/
Friday Mar 29, 2024
Friday Mar 29, 2024
Y Podlediad diweddaraf yn trafod dyblu'r prîs ers ein podlediad diwethaf, diweddariad ar ETF's, yr Hanneru, hanes Bitcoin a Wikileaks, Ross Ulbricht a'r Lôn Sidan, newid cân yn y Cyfryngau, dyfodol y rhwydwaith mellten a sidechains, a rhagarweiniad helaeth i'r dair podlediad nesaf ar Dorri'r Bunt i Dorri'r Undeb.
Saturday Nov 11, 2023
Saturday Nov 11, 2023
Trafodaeth ar y diweddaraf ym myd Bitcoin, yr hanneru y flwyddyn nesa, yr ETF's Bitcoin, datblygiad E-arian at gyfer defnyddio Bitcoin, a be ydi Stablecoins ag i pa bwrpas mae eu defnyddio.
Lincs at gyfer E-arian
https://cashu.space/https://nutstash.app/
Tuesday Aug 15, 2023
Tuesday Aug 15, 2023
Trafodaeth ar y Creisus Tai Fforddiadwy sy'n lladd Cefn Gwlad Cymru oherwydd chwyddiant y Bunt Brydeinig, sut mae dyfod Bitcoin yn dymchwel y gyfundrefn bresennol, ag yn ein arwain i ddyfodol o ddadchwyddiant a marchnad dai fforddiadwy, ag yn ol i'r hen ffordd Gymreig o fyw.
Sunday Aug 13, 2023
Sunday Aug 13, 2023
A discussion of modern electricity grids and energy generation in Britain and the Rest of the World today, and why Nation States are beginning to adopt Bitcoin and mining on the State level.
Interview based on this original blog post https://annrhefn.blog/2023/04/28/bitcoin-and-energy-geopolitics-and-game-theory/